Peter Hughes Griffiths
Mae arweinydd yr wrthblaid wedi galw am gael gwared ar y grŵp sy’n rheoli Cyngor Sir Gâr a chreu clymnblaid enfys yn ei le.

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru ar y Cyngor, Peter Hughes Griffiths, dyna’r unig ffordd i gael dechrau newydd i’r cyngor ar ôl dau adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn dweud bod yr arweinwyr a’r Prif Weithredwr wedi torri’r gyfraith.

Roedd hynny tros becyn cyflog a phensiwn i’r Prif Weithredwr, Mark James, a thros roi cefnogaeth ariannol iddo ddod ag achos enllib yn erbyn un o drethdalwyr y sir.

Ymddiswyddo’

Yn ôl Peter Hughes Griffiths, mae hi’n “anorfod”  i Brif Weithredwr y Cyngor, Mark James, ac aelodau’r Bwrdd Gweithredol ymddiswyddo.

“Pwy yw’r rhain i ddweud wrthyn ni sut i redeg ein cyngor erbyn hyn?” meddai wrth Golwg 360.

Roedd taliadau o £27,000 wedi ei roi i Brif Weithredwr Cyngor Sir Gâr, Mark James, a mwy na £51,000 i Brif Weithredwr Cyngor Sir Benfro, Bryn Parry Jones, ac un swyddog arall.

‘Cyfnod tywyll’

Dywedodd Peter Hughes Griffiths ei bod hi’n “gyfnod tywyll iawn yn nemocratiaeth Sir Gar”.

“Rydyn ni wedi bod yn achwyn ers amser fod pethau’n digwydd nad ydyn ni’n ymwybodol ohonyn nhw, fel mae’r adroddiad wedi cadarnhau – sy’n gwbl anghyfreithlon.”

“Roedd y Prif Weithredwr yn bresennol mewn cyfarfod i drafod ei bensiwn, gan roi mantais bersonol iddo.

“Does dim ffydd yn y cyngor bellach a ddim dewis gan Kevin Madge [yr arweinydd], a’i ddiprwy ond sefyll i lawr.”

Arweinyddiaeth ‘dryloyw’

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi awgrymu fod y pleidiau yn cydweithio a bod clymblaid enfys yn cael ei chreu, wedi ei arwain gan Blaid Cymru:

“A’r peth iachaf fyddai i ni gynnig arwain y glymblaid – byddai’r arweinyddiaeth wedyn yn gwbl dryloyw,” meddai.

“Rydyn ni wedi dangos yn barod nad oes angen gwneud toriadau polisi (o £4 miliwn), drwy gael yr arian o lefydd eraill.

“Roedd y cyngor eisiau datblygu mwy o adeiladau – ond rydyn ni’n credu fod rhaid cadw’r gwasanaethau presennol. ”