Hofrennydd yn helpu gyda'r gwaith yn Llanbedr ( O wefan Cyfoeth Naturiol Cymru)
Mae’r awdurdodau yng Nghymru’n croesi bysedd na fydd gwyntoedd cryf yn achosi llifogydd mawr unwaith eto dros y penwythnos nesa’.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, maen nhw’n obeithiol na fydd llanw uchel iawn tros y Sul yn achosi gormod o ddifrod.

Fe fydd y llanw’n uwch na’r un a achosodd werth miliynau o bunnoedd o ddinistr ddechrau’r mis ond, ar hyn o bryd, does dim disgwyl yr un math o wynt i’w wthio yn ei flaen.

Cost y difrod

Erbyn hynny, fe fydd yr asiantaeth wedi cwblhau adroddiad ar effaith y llanw mawr tro diwetha’, gyda disgwyl ffigurau difrod tebyg i £5 miliwn yn ardal Sir Conwy, £1½ yng Ngheredigion a symiau mawr mewn ardaloedd fel y Bermo a Llanbedr yng Ngwynedd.

Yn Llanbedr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes yn gwario £½ miliwn ar atgyweiriadau tros dro ar amddiffynfeydd môr yn barod ar gyfer y penwythnos.

Maen nhw’n rhybuddio bod dŵr yn debyg o lifo eto trwy fwlch yn yr amddiffynfeydd tros dir amaethyddol ond yn obeithiol y bydd amddiffynfeydd yn ddigon cry’ mewn rhannau eraill o Gymru.

Dibynnu ar y gwynt

Mae’r peryg yn dibynnu ar gryfder y gwynt y tu cefn i’r llanw, meddai rheolwr cyfryngau Cyfoeth Naturiol Cymru, Deiniol Tegid.

“Mae’r llanw am fod yn uwch nag yr oedd fis yn ôl ond, er fod yna wynt y tu ôl iddo fo, does dim disgwyl y bydd hwnnw cyn gryfed,” meddai.

Ond roedd yn rhybuddio hefyd y gallai’r amodau newid a bod y bwlch amser yn rhy fawr i fod yn hollol bendant.

Ond mae’r asiantaeth yn rhedeg modelau cyfrifiadur i geisio mesur y bygythiad ac yn barod i gyhoeddi rhybuddion os bydd raid.

Y neges gyda deuddydd i fynd oedd y dylai bobol gadw llygad am rybuddion llifogydd a chofrestru gyda’r gwasanaeth rhybuddion os oes un yn eu hardal.