Fe fydd bron chwarter miliwn yn cael ei dorri oddi ar grantiau i lyfrau a chylchgronau yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd nesa’.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi sgrifennu at y cyhoeddwyr i gyd yn egluro beth yw effaith toriadau yn y cyllid sy’n dod i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru.

Yn wahanol i’r toriadau diwetha’ – pan gadwyd yr effeithiau i waith a swyddi’r Cyngor ei hun – mae Pwyllgor Gwaith y Cyngor wedi penderfynu y bydd rhaid torri rhywfaint ar grantiau hefyd y tro oyma.

Fe fydd panel grantiau’r Cyngor yn trafod yr union fanylion yn eu cyfarfod ym mis Mawrth a dyw’r argymhellion ddim yn gyhoeddus eto.

Y symiau

  • Mae’r llythyr yn egluro y bydd £150,000 yn llai ar gyfer grantiau yn 2014-15 a £90,000 arall yn llai yn 2015-16.
  • Mae canran y toriad am fod yr un peth yn y ddwy iaith gyda chyfanswm y toriad yn y Gymraeg yn £170,000 a £70,000 yn Saesneg.
  • Fe fydd £60,000 arall yn cael ei dorri oddi ar wario mewnol y Cyngor.

Yn ôl y llythyr, mae’r Cyngor eisiau gwneud popeth posib i gadw nifer y llyfrau sy’n cael eu cefnogi ac i gefnogi’r cylchgronau a chynlluniau eraill.