Gruff Rhys a'i brosiect American Interior
Mae Gruff Rhys, cyn aelod o’r Super Furry Animals, wedi creu ffilm ddogfen am ei daith yn ceisio olrhain hen berthynas iddo yn America.

Mae American Interior wedi ei chyfarwyddo  gan Dylan Goch, ac mae’n dilyn y cerddor wrth iddo sgwennu caneuon a chwarae gigs yng ngogledd America – yn debyg i’w ffilm Separado! oedd yn dilyn ei daith ymchwil i Batagonia.

Yn ôl y sôn, fe aeth perthynas Gruff Rhys, John Evans, draw i Baltimore yn 1792 i chwilio am lwyth coll o Americanwyr oedd yn siarad Cymraeg. Ac fe roedd Gruff Rhys yn awyddus i olrhain ei daith saith mlynedd a dod o hyd i’w fedd.

Yn ystod ei daith mae’n teithio i St Louis, ar hyd Afon Missouri mewn cwch, ac Omaha.

Ynghyd a’r ffilm ddogfen, fe fydd albwm, llyfr ag ap yn cael eu rhyddhau am ei daith yn America.

Mi fydd y ffilm yn cael ei rhyddhau ddiwedd mis Mai a’r albwm yn cael ei rhyddhau ar 5 Mai.

Gallwch wylio’i ragflas o brosiect American Interior isod: