Y llun o R S Rhomas sy'n ymddangos ar bacedi creision Tyrrells
I’r Cymry, mae RS Thomas yn cael ei gofio fel un o feirdd enwocaf y genedl. Ond i gwmni creision o Loegr, mae o’r wyneb perffaith i hysbysebu cystadleuaeth i ennill £25,000.
Fe ymddangosodd llun o wyneb y bardd a’r offeiriad o Bentrefelin ar baced creision Tyrrells, gyda’r geiriad “Win a fleeting look of contempt…or £25,000”.
Nid oedd Tyrrells yn ymwybodol eu bod nhw’n defnyddio llun o un o fawrion y byd llenyddol Cymraeg, ac maen nhw bellach wedi ymddiheuro.
Ond mae’r camgymeriad o roi cenedlaetholwr Cymraeg i hysbysebu creision o Loegr, wedi annog rhai o feirdd Cymru i gyfansoddi englynion am y peth.
Cyfansoddiadau
Nionod braf o Fanafon, – tatws ir
o dir Aberdaron,
yna i mewn â’r Halen_Mon:
R.S. sy’n gwneud y creision!
(Gruffudd Antur)
In a crisp one loves a crack, a vicar
evoking a soundtrack.
If drab, and if a drawback,
a great poet’s on the pack
(Rhys Iorwerth)
‘Doniol a thrist’
Mae’r athro M Wynn Thomas, arbenigwr ar RS Thomas a wnaeth gyhoeddi darnau o’i waith ar ôl iddo farw yn 2000, yn credu fod rhaid gweld yr ochr ddoniol i’r camgymeriad.
“Mae’r peth yn ddoniol yn yr ystyr ei fod yn cadarnhau barn dywyll RS Thomas o’r byd cyfoes sydd ohoni,” meddai.
“Allwn ni ddim meddwl gormod am y peth, ond mae hi’n drist fod un o’r mawrion yn cael ei ddefnyddio fel hyn.”
“Gobeithio fod y creision cystal â’i farddoniaeth!”
Canmlwyddiant
Roedd hi’n ganmlwyddiant ers genedigaeth RS Thomas yn 2013, gyda digwyddiadau yn cael eu trefnu ledled Cymru yn rhan o’r dathlu.
Bydd arddangosfa o waith 14 o arlunwyr cyfoes sydd wedi ymateb i fywyd RS Thomas trwy gelf yn cael ei agor yn Oriel Plas Gyn y Weddw ddydd Sadwrn.
Ac mi fydd M Wynn Thomas, Myrddin ap Dafydd, Gareth Neigwl a Ceridwen Lloyd Morgan hefyd yn trafod ei fywyd a’i waith mewn cyfres o ddarlithoedd o nos Wener a dydd Sadwrn.