Ar ôl ennill cryn dipyn o lwyddiant wrth ganu mewn Saesneg y llynedd, mae Forever Kings wedi penderfynu mai 2014 fydd y flwyddyn pan fydd y band o’r diwedd yn rhyddhau deunydd yn y Gymraeg hefyd.

Bydd eu sengl newydd ‘Miss Misery’ i’w chlywed ar y radio o’r wythnos nesaf ymlaen – ac fe allwch chi wrando ar y gân yn arbennig ar golwg360 heddiw.

Mae’r band wedi recordio’r gân yn Gymraeg a Saesneg gyda phrif ganwr Forever Kings, Bryn Hughes Williams, yn dweud eu bod yn gobeithio rhyddhau llawer mwy o ddeunydd dwyieithog yn y misoedd nesaf.

“Da ni wedi bod yn canu’n Saesneg ers haf diwethaf,” esboniodd Bryn Williams, prif ganwr Y Cer a Rosary gynt. “Ond gan ein bod ni o Gymru a bod gan rai o hogiau’r band brofiad mewn bandiau Cymraeg, roedden ni eisiau ehangu’n cynulleidfa ni.

“Y rheswm mwyaf doedden ni ddim yn recordio yn Gymraeg o’r blaen oedd oherwydd ei fod o mor ddrud i fynd i’r stiwdio i recordio cân yn ddwyieithog.

Ond rŵan rydan ni’n recordio yn stiwdio newydd ein drymiwr [Dewi Williams] – SWN Studio ym Montnewydd – ac mae’n eithaf hawdd i ni neud rŵan, felly flwyddyn yma ‘da ni’n gobeithio rhyddhau lot mwy o stwff dwyieithog.”

“Mor fawr â’r Super Furries”

Ffurfiwyd Forever Kings y llynedd gyda’r pum aelod – Bryn Williams, Gavin Malone, Dewi Williams, Huw Parry a Leon Williams – yn denu cryn dipyn o sylw yn 2013.

Cawson nhw eu dewis fel band yr wythnos BBC Introducing ddwywaith, yn ogystal â chael eu caneuon wedi’u chwarae ar Radio Wales.

Ac mae Bryn Williams yn cyfaddef, er eu bod nhw’n awyddus iawn i ganu yn eu mamiaith, eu bod nhw hefyd yn ceisio denu dilynwyr o du hwnt i Gymru.

“I ni mae o’n achos o drio cael ein henw ni allan yno a mynd mor bell ag y gallwn ni,” meddai Bryn Williams, “dydi o ddim byd i neud efo pres.

“Yr uchelgais ydi bod y band mwyaf o Gymru ers y Super Furries – fysa rhai pobl yn chwerthin ella, ond os na ti’n credu hynny dydi o ddim yn mynd i ddigwydd.”