Owen Paterson - cyhoeddi bod y milwyr am helpu
Gydag ardaloedd ar hyd arfordir gorllewin Cymru’n paratoi am ragor o stormydd tros y Sul, mae milwyr ar eu ffordd i Wlad yr Haf yn Lloegr i helpu gydag effeithiau llifogydd yno.
Fe fyddan nhw’n defnyddio cerbydau arbennig i gario bwyd i bentrefi sydd wedi eu hynysu ers y stormydd a’r llanw mawr ddechrau’r mis.
Fe fyddan nhw hefyd yn symud pobol ac yn cario bagiau tywod yno i baratoi at y tywydd mawr nesa’ – mae 65 cilometr sgwâr o dan ddŵr ar Wastadeddau Gwlad yr Haf, ardal sydd wedi ei hennill o’r môr.
Cameron yn addo gweithredu
Fe ddaeth y cyhoeddiad am y fyddin ar ôl i Brif Weinidog Prydain, David Cameron, addo gweithredu wrth ateb cwestiynau yn y Senedd ddoe.
Fe addawodd hefyd y byddai rhagor o bympiau dŵr yn cael eu hanfon yno hefyd, ond mae peryg na fydd afonydd lleol yn gallu ymdopi â’r dŵr ychwanegol o hynny.
Fe fu pwyllgor argyfwng y Llywodraeth, Cobra, yn cyfarfod ddoe ac roedd yr Ysgrifennydd Amgylchedd, Owen Paterson, wedi ymweld â’r ardal ddechrau’r wythnos.
Bryd hynny, fe fu pobol leol yn protestio yn ei erbyn gan ddweud eu bod yn byw mewn “amodau trydydd byd”.