Viktor Yanukovych, Arlywydd yr Wcrain
Mae Llywodraeth yr Wcráin wedi cynnig amnest i bobol a gafodd eu harestio yn ystod y protestiadau yn Kiev – ar yr amod fod protestwyr yn gadael y strydoedd ac yn rhoi’r gorau i feddiannu adeiladau.

Mae gwrthdaro wedi bod ym mhrifddinas yr Wcrain, Kiev, ers deufis, gydag o leia’ ddau berson wedi marw.

Dyw’r mesur ddim yn cael ei gefnogi gan y gwrthbleidiau sy’n arwain y protestiadau.

Ddydd Mawrth, fe ymddiswyddodd y Prif Weinidog Mykola Azarov a’i gabinet ac mae’r senedd hefyd wedi diddymu deddf ddadleuol oedd yn gwahardd protestiadau.

Cefndir

Dechreuodd y protestiadau ar ôl i arlywydd y wlad, Viktor Yanukovych, ohirio arwyddo cytundeb masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd a chreu cytundebau gyda Rwsia yn lle hynny.

Mae protestwyr wedi meddiannu o leiaf dri adeilad yn Kiev ac maen nhw’n cael eu defnyddio’n ganolfannau lloches i’r rhai sy’n gwersylla ar brif sgwâr y ddinas.

Aeth pethau o ddrwg i waeth yn ystod yr wythnos ddiwethaf wrth i brotestwyr ddechrau gwrthdaro â’r heddlu gerllaw senedd y wlad.