Yr Old Bailey yn Llundain
Mae cyn ohebydd gyda’r News of the World wedi disgrifio gwrando ar negeseuon ffôn yr actor James Bond, Daniel Craig, wnaeth ddatgelu ei berthynas honedig gyda’r actores Sienna Miller.

Bu Dan Evans yn parhau i roi tystiolaeth yn yr achos hacio ffonau yn yr Old Bailey heddiw.

Roedd Daniel Craig yn un o lu o enwogion a gafodd eu  targedu ganddo ar ôl iddo ymuno â’r papur newydd o’r Sunday Mirror yn 2005. Roedd eraill yn cynnwys Sol Campbell , Rolf Harris, Kelly Hoppen, Jade Goody ac asiant Steven Gerrard.

Ychwanegodd Dan Evans bod golygydd y papur newydd ar y pryd, Andy Coulson, yn gwybod am yr hacio a hyd yn oed wedi rhoi cyfarwyddiadau iddo sut i wneud iddi ymddangos fel pe bai’r tâp wedi cael ei anfon i’r papur yn ddienw.

Pan ofynnwyd iddo pwy oedd yn gwybod am hacio ffonau yn News of The World, rhoddodd Dan Evans enwau 10 o staff y papur,  gan gynnwys Andy Coulson.

Mae Coulson, 46, o Charing, Caint; cyn brif weithredwr News International Rebekah Brooks, 45, o Churchill, Sir Rhydychen, a chyn olygydd reolwr NotW Stuart Kuttner, 73, o Woodford Green, Essex, yn gwadu cynllwynio i hacio ffonau rhwng 2000 a 2006.

Mae’r achos yn parhau.