Malala Yousafzai
Mae prifysgol ym Mhacistan wedi canslo seremoni i lansio llyfr gan yr ymgyrchydd Malala Yousafzai, a gafodd ei saethu gan y Taliban, oherwydd pryderon am ddiogelwch.

Dywedodd Sarfraz Khan, cyfarwyddwr canolfan astudiaethau’r brifysgol yn Peshawar bod yr heddlu wedi dweud wrtho am ganslo’r digwyddiad i lansio’r llyfr ‘I am Malala’.

Mae’r penderfyniad wedi cael ei feirniadu gan y trefnwyr.

Mae un o’r trefnwyr, Khadim Hussain, wedi cyhuddo’r llywodraeth leol o ddylanwadu ar y brifysgol am resymau gwleidyddol.

Ond dywedodd Shah Farman Khan, gweinidog gwybodaeth talaith Khyber Paktunkhwa ei fod yn teimlo bod y lansiad yn cael ei gynnal mewn “safle amhriodol.”

Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o ymosodiadau bom a drylliau wedi bod yn Peshawar.

Cafodd Malala Yousafzai, 16, ei saethu yn ei phen wrth iddi ddychwelyd adref o’r ysgol ym mis Hydref 2012 ar ôl iddi feirniadu’r Taliban. Roedd hi’n byw yn Mingora, un o gadarnleoedd y milwriaethwyr ar y pryd.

Cafodd driniaeth ym Mhacistan cyn cael ei chludo i Brydain lle mae hi bellach yn byw gyda’i theulu.