Mae’r Arolwg Trosedd Prydain yn awgrymu bod nifer y troseddau yng Nghymru a Lloegr wedi cwympo o 10% y llynedd, yn y flwyddyn hyd at fis Medi.
Mae’r ffigurau – sy’n cael eu casglu trwy holi pobol led led Cymru a Lloegr – ar eu hisa’ ers dechrau eu cad wyn 1981 a hanner y cyfanswm pan oedd ar ei waetha’.
Llai o droseddau mewn cartrefi, llai o ddwyn oddi ar bobol a llai o droseddau treisiol oedd yn gyfrifol, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Colli statws
Ond mae amheuon wedi cael eu codi tros ffigurau’r heddluoedd eu hunain ar ôl i’r corf gwarchod ystadegau eu tynnu oddi ar ei restr cymeradwy.
Roedd eu ffigurau nhw hefyd yn dangos gostyngiad, o 3%, ond fe ddaw hynny wythnos ar ôl iddyn nhw golli eu statws.
Heddlu Gwent oedd un o ddim ond llond llaw o heddluoedd lle nad oedd gostyngiad – roedd eu ffigurau nhw’n gyson o flwyddyn i flwyddyn.
Un maes lle’r oedd cynnydd oedd troseddau rhyw – gyda chynnydd o 17%. Rhan o’r rheswm am hynny yw ymchwiliadau Yewtree’r heddlu yn dilyn y sgandal am y cyflwynydd teledu Jimmy Saville.