Iain Duncan Smith yn 'newid bywydau, ond nid er gwell'
Mae pobol ddifrifol wael yn gorfod aros am fisoedd i weld a oes ganddyn nhw’r hawl i fudd-daliadau, meddai AS o Gymru.

Fe alwodd Madeleine Moon, AS Pen-y-bont ar Ogwr, am ddadl frys am fethiant gwasanaeth gwybodaeth ynglŷn â’r taliadau.

Yn ôl yr AS, mae rhai pobol yn aros am gymaint â saith mis cyn clywed a oes ganddyn nhw hawl i gymorth ychwanegol trwy drefn y taliadau personol annibynnol (PIP).

Meddai Madeleine Moon

“Mae’n ofnadwy beth sy’n digwydd i bobol sy’n ddifrifol o wael,” meddai Madeleine Moon.

“Fe ddywedodd Iain Duncan Smith, (yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau) fod ei bolisïau’n ymwneud â newid bywydau pobol … maen nhw’n newid bywydau, ond nid er gwell.”

Mae’r gwasanaethau gwybodaeth yn cael eu cynnal gan y cwmni preifat Capita ond, yn ôl Madeleine Moon, nid oedd y cyfeiriadau cyswllt e-bost na ffôn yn cael eu hateb.

Roedd hi’n siarad yn ystod y cwestiynau busnes yn Nhŷ’r Cyffredin, pan fydd ASau’n cael cyfle i alw am drafod gwahanol bynciau.

Ateb y Llywodraeth

Roedd llefarydd ar ran yr Adran Waith a Phensiynau’n cydnabod bod asesu bellach yn cymryd mwy o amser nag o dan yr hen drefn o Lwfans Byw i’r Anabl, ond roedd yr asesu’n fwy trylwyr.

“Mae’r diwygiadau hyn wedi’u cynllunio i wneud yn siŵr fod y £13 biliwn yr ydyn ni’n eu gwario ar fudd-daliadau bob blwyddyn yn cael eu targedu at y rhai sydd eu hangen fwya’,” meddai.