Llysiau organig (Canolfan Organig Cymru)
Mae undeb ffermwyr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â’r ‘ansicrwydd’ i ben i ffermwyr organig yng Nghymru.

Fe bwysleisiodd NFU Cymru fod angen i gefnogaeth ar gyfer ffermio organig fod ar gael i bob ffermwr, nid yn unig i’r rheiny oedd yn cwrdd â meini prawf amgylcheddol.

Maen nhw’n dweud bod ‘diffyg penderfyniad ac eglurder’ yn gwneud i rai ffermwyr droi cefn ar y maes a throi’n ôl at ffermio llai gwyrdd.

Deth y neges yn rhan o ymateb yr Undeb i ymgynghoriad y Llywodraeth ar Gefnogaeth Organig rhwng 2015 a 2020.

Dywedodd NFU Cymru nad ydyn nhw’n fodlon â’r arweiniad y maen nhw wedi’i gael gan Lywodraeth Cymru ar y mater, gan ddweud ffermwyr yn troi i ffwrdd o gynnyrch organig oherwydd yr ansicrwydd.

“Mae’r diffyg cyfeiriad polisi gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn bryder mawr i’n haelodau organig ni,” meddai Haydn Evans, ffermwr llaeth organig o Sir Benfro sy’n cynrychioli NFU Cymru ar Grŵp Materion Organig yr NFU, wrth golwg360.

“Dydyn nhw heb roi gwybod yn glir i ni beth fydd yn digwydd. Mae pobol hefyd yn poeni y bydd y taliadau cynnal a chadw hanesyddol yn diflannu.

“Mae’r diffyg penderfyniad mwy na thebyg wedi cyfrannu at nifer o bobol yn mynd yn ôl at ffermio confensiynol.”

Pob ffermwr angen cefnogaeth

Mae cwyn benna arall NFU Cymru’n erbyn cynlluniau’r Llywodraeth i dargedu cefnogaeth organig ar ffermwyr sy’n cwrdd â meini prawf o ran yr amgylchedd neu gynaliadwyedd.

“Dydyn nhw ddim wedi esbonio’n iawn pam eu bod nhw’n rhoi blaenoriaeth i hynny,” meddai Haydn Evns. “Hoffwn i weld sut yn union fydd y targedau yna’n cael eu mesur, achos alla’ i ddim cael ateb ganddyn nhw.”

‘Potensial’

Er fod yr argyfwng ariannol wedi lleihau’r gefnogaeth i ffermio organig, roedd Haydn Evans yn ffyddiog fod yna botensial mawr o hyd.

“Does dim dwywaith fod y trafferthion economaidd wedi bod yn her i ddatblygu marchnadoedd ar gyfer cynnyrch organig tra bod costau cynhyrchu yn y sector wedi cynyddu,” meddai.

“Ond mae yna bobol mas yna sydd efo busnesau penigamp ac eisiau gwthio ymlaen. Yn rhyngwladol mae’r farchnad am gynnyrch rhyngwladol yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn a, gyda’r gefnogaeth marchnata briodol, mae yna gyfleoedd i gynhyrchwyr organig Cymru.”