Niuc
Nick Clegg
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wedi gwneud yn glir ei fod yn anghytuno gyda pholisi Llywodraeth Prydain tros ffoaduriaid o Syria.
Mae llefarydd ar ei ran yn mynnu fod arweinwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn ymladd o fewn y cabinet i gael gwledydd Prydain yn rhan o gynllun gan y Cenhedloedd Unedig.
Ddoe, fe ddywedodd y Prif Weinidog, Davd Cameron, na fyddai’r Llywodraeth yn ymuno gyda’r cynllun swyddogol i dderbyn ffoaduriaid.
Ond, yn ôl Nick Clegg, does dim modd gwadu’r “achos moesol” tros wneud.
Y cefndir
Mae asiantaethau rhyngwladol yn rhybuyddio mai’r argyfwgn yn Syria yw un o’r gwaetha’ erioed gyda miliynau o bobol bellach wedi gorfod gadaelu eu cartrefi.
Dadl David Cameron yw mai rhoi cymorth ariannol i helpu’r bobol yn Syria yw’r ffordd orau o helpu.
Mae hefyd yn dweud bod llawer o ffoaduriaido Syria wedi cael lloches eisoes yng nglwedydd Prydian.