Mae’r heddlu ym Mhrydain yn gweithio ar y cyd gydag ymchwilwyr yn Awstralia a’r Unol daleithiau i geisio atal grŵp o bedoffiliaid sydd wedi bod yn rhoi lluniau byw o blant yn cael eu cam-drin ar y we o’r Philipinas.

Mae’r ymchwiliad wedi bod yn cael ei gynnal ers dwy flynedd ac yn canolbwyntio ar “fygythiad sylweddol” yn enwedig mewn gwledydd datblygedig, yn ôl yr Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol yn y DU.

Mae tri ymchwiliad arall yn cael eu cynnal i achosion o roi lluniau byw o gam-drin  plant yn rhywiol ar y we, gyda 139 o Brydeinwyr ymhlith 733 o bobl sydd wedi’u hamau o’r drosedd.