Mae ffigyrau newydd yn awgrymu mai’r DU sydd a’r gyfradd uchaf o gowt, neu gymalwst, yn Ewrop.
Canfu arbenigwyr fod un o bob 40 o bobl ar draws y DU yn cael eu heffeithio gan y cyflwr, gyda’r cyfraddau uchaf yng Nghymru a gogledd ddwyrain Lloegr.
Yn hanesyddol, mae gowt wedi cael ei ystyried fel cyflwr sy’n effeithio’r cyfoethog oherwydd ei gysylltiad â gorfwyta a gor-yfed alcohol.
Er bod llawer o arbenigwyr bellach yn ystyried bod y clefyd yn fwy cymhleth na hynny, mae’n amlwg bod yfed gormod a gordewdra yn ffactorau. Ond mae na ffactorau eraill sy’n gallu achosi’r cyflwr fel pwysau gwaed uchel, clefyd y siwgr, neu aelod agos o’r teulu sy hefyd yn dioddef o gowt.
Mae’n cael ei achosi gan gynnydd yn lefel yr asid wrig yn y gwaed sy’n arwain at boenau yn y cymalau.
Mae’r ymchwil diweddaraf, a gyhoeddwyd ar-lein yn Annals of the Rheumatic Diseases, yn cynnwys dadansoddiad o ddata cleifion i amcangyfrif pa mor gyffredin oedd gowt rhwng 1997 a 2012.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, cododd nifer achosion gowt o 64% gan gynyddu tua 4% pob blwyddyn. Roedd y cyfraddau ar gyfer dynion tua phedair gwaith yn uwch yn yr un cyfnod.
Meddai awduron yr ymchwil bod nifer yr achosion o gowt yn y DU yn uwch na’r amcangyfrifon diweddar mewn gwledydd Ewropeaidd eraill fel yr Almaen a’r Eidal.