Mae amser yn brin i wneud newidiadau hanfodol i’r gwasanaeth iechyd a fydd yn diogelu ei ddyfodol.

Dyna rybudd y corff sy’n cynrychioli sefydliadau’r GIG yng Nghymru wrth i arweinwyr y gwasanaeth iechyd gwrdd yng Nghaerdydd heddiw.

Mae Conffederasiwn GIG Cymru, sy’n cynrychioli’r holl fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru, yn amlinellu ei bryderon mewn papur newydd – ‘O Rethreg i Realaeth – GIG Cymru ymhen 10 mlynedd’ – sy’n cael ei lansio yn y gynhadledd.

Mae’r papur yn rhybuddio nad yw gwleidyddion a’r cyhoedd yn deall graddfa’r newid sydd ei angen ac yn dweud bod yn rhaid cymryd camau pendant  ar frys er mwyn diogelu’r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.

‘Cyfnod tyngedfennol’

Dywedodd cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Helen Birtwhistle: “2014 yw’r flwyddyn y mae’n rhaid i newid ddigwydd. Mae’n rhaid i benderfyniadau anodd gael eu gwneud eleni neu ni fydd y GIG fel y mae yn goroesi. Mae hi’n gyfnod tyngedfennol i’r GIG yng Nghymru – nid yw gwneud dim yn opsiwn.”

Ychwanegodd: “Mae’n mynd yn fwyfwy anodd erbyn hyn i gynnal safon y gwasanaethau oherwydd bod y system yn dibynnu’n helaeth ar rwydwaith ysbytai a gafodd eu cynllunio mwy na 50 mlynedd yn ôl.”

Fe fydd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn siarad yn y gynhadledd ac mae disgwyl iddo ddweud bod angen blaenoriaethu adnoddau ar gyfer y triniaethau hynny sy’n gweithio.