Rosemary Butler
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael ei enwi fel y lle mwyaf hoyw-gyfeillgar i weithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, a gynhyrchwyd gan sefydliad hawliau cyfartal Stonewall, yn mesur sut mae sefydliadau’n cefnogi staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
Cafodd y Cynulliad ei restru fel Rhif 11 ymhlith y 100 cyflogwr gorau yn y DU ac eleni y Cynulliad yw’r Cyflogwr Gorau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.
“Rwy’n falch iawn o’r wobr hon gan ei bod yn dangos ein bod yn sefydliad cyfoes sy’n cynrychioli holl gymunedau Cymru,” meddai’r Llywydd, Y Fonesig Rosemary Butler AC.
“Bu gwaith OUT-NAW, rhwydwaith y Cynulliad ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn ganolog i sicrhau’r gydnabyddiaeth hon ac i weithredu gweledigaeth y sefydliad i fod yn gyflogwr sy’n buddsoddi yn ei adnoddau mwyaf hanfodol, sef ei weithlu.”
Dyma’r chweched flwyddyn yn olynol i’r Cynulliad gael ei restru ymhlith y lleoedd mwyaf hoyw-gyfeillgar i weithio yn y DU.
‘Gwahaniaeth gwirioneddol’
Ychwanegodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad Cenedlaethol â chyfrifoldeb am faterion cydraddoldeb: “Hoffwn dalu teyrnged i staff y Cynulliad sy’n gweithio’n galed i roi rhaglenni ar waith i sicrhau bod y Cynulliad yn lle cyfeillgar a chadarnhaol i’n holl staff weithio ynddo.”
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: “Mae’r cyfraniad y mae ein Cyflogwyr Gorau yn ei wneud o ran creu profiad byw tecach a mwy cynhyrchiol i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn y gweithle yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“Rydym yn gwybod hyn gan fod ein Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn ei fesur. Rwy’n falch iawn o’r ffaith bod 10 o 100 cyflogwr gorau’r DU yn gyflogwyr o Gymru. Er gwaetha’r pwysau economaidd, mae’r cyflogwyr hyn yn dangos na fu buddsoddi mewn cydraddoldeb erioed yn bwysicach.
“Llongyfarchiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gael ei enwi fel y Cyflogwr Gorau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn dyst i ymrwymiad y Cynulliad i gydraddoldeb ac amrywiaeth, sydd i’w weld ar bob lefel o’r sefydliad.”