William Roache
Mae merch sy’n honni bod actor Coronation Street, William Roache, wedi ymosod arni’n anweddus, wedi bod yn rhoi tystiolaeth heddiw.

Dywedodd y ferch, oedd yn 14 oed ar y pryd, bod Roache wedi anfon llythyr a llun ati wythnosau ar ôl yr ymosodiad honedig, yn gofyn iddi ysgrifennu’n ôl ato ar ôl iddi ddychwelyd i’r ysgol.

Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Preston bod Roache wedi ei gorfodi i gyflawni gweithred rywiol arno mewn toiledau yn Stiwdios Granada ym Manceinion yn yr haf 1965.

Roedd wedi mynd i’r stiwdios gyda ffrind er mwyn cymryd rhan mewn sioe dalent i blant, meddai pan gyfarfu a William Roache.

Mae’r erlyniad yn honni bod Roache “wedi cymryd mantais o’i enwogrwydd” er mwyn cam-drin pump o ferched yn rhywiol.

Maen nhw’n honni bod y dioddefwyr wedi cadw’n dawel am ddegawdau oherwydd enwogrwydd Roache, nes i helynt Jimmy Savile a Stuart Hall ddod i’r amlwg.

Mae Roache, 81, o Wilmslow yn Sir Gaer yn gwadu pum cyhuddiad hanesyddol o ymosod yn anweddus a dau gyhuddiad o dreisio pan oedd y merched yn 16 oed neu’n iau. Honnir bod y troseddau wedi digwydd rhwng 1965 a 1971.