Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi galw ar y cyhoedd i helpu i atal lledaeniad y  salwch stumog, norofeirws, mewn ysbytai.

Maen nhw wedi gofyn i bobl osgoi ymweld â wardiau dros yr wythnosau nesaf oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol .

Er bod y sefyllfa yn gwella, mae dau ysbyty yn ardal Bwrdd Iechyd  Caerdydd a’r Fro yn parhau i gael eu heffeithio gan achosion posibl o’r haint.

Mae dwy ward yn parhau i fod ar gau yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ac mae rhannau o ddwy ward yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd hefyd wedi cael eu heffeithio .

Yn ogystal,  mae dwy ward yn Ysbyty Treforys ac un ward yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot hefyd wedi cau.

Diolchodd Dr Eleri Davies, Cyfarwyddwr Atal a Rheoli Heintiau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, i’r cyhoedd am gydweithio gyda’r ysbytai.

Mae hi hefyd wedi atgoffa pobl sydd wedi cael symptomau o’r salwch, sy’n cynnwys taflu fyny a dolur rhydd,  i gadw draw o’r ysbyty a chanolfannau iechyd am o leiaf 48 awr.

Meddai Dr Eleri Davies:  “Mae’n anodd iawn atal lledaeniad y norofeirws unwaith y bydd yn yr ysbyty felly rydym yn gofyn i’r cyhoedd i’n helpu ni drwy gyfyngu ar ymweliadau i wardiau.

“Os ydych yn ymweld â ffrindiau neu deulu yn yr ysbyty , yna os gwelwch yn dda wnewch chi ystyried y cyngor yn y mynedfeydd i’r wardiau a chadw at ymarfer hylendid da.”

Ychwanegodd: “Os ydych yn dioddef o symptomau o ddolur rhydd a thaflu fyny ac mae angen i weld meddyg teulu neu fynd i’r ysbyty, yna rhowch wybod i’ch meddygfa neu ysbyty am eich symptomau, yn ddelfrydol dros y ffôn cyn i chi fynychu.”