Heather Joyce, arweinydd Cyngor Caerdydd
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd wedi methu ateb llythyr uniaith Gymraeg gan Gymdeithas yr Iaith, gan ofyn am gyfieithiad Saesneg yn ei le.
Cafodd e-bost ei anfon at yr arweinydd Heather Joyce gan Swyddog Maes Cymdeithas Yr Iaith yn y De, Euros ap Hywel, ym mis Hydref 2013.
Roedd yn gofyn am drefnu cyfarfod gyda’r cyngor er mwyn trafod sefyllfa’r Gymraeg yn y brifddinas, am nad oedd yn teimlo fod y cyngor yn gwneud digon i ateb y galw cynyddol sydd yn bodoli am wasanaethau cyfrwng Cymraeg yno.
Bron i bedwar mis ar ôl iddo anfon yr e-bost, fe ddaeth ymateb gan Heather Joyce ddoe yn gofyn iddo ail sgwennu’r e-bost yn Saesneg .
Roedd Euros ap Hywel ar ddeall mai Heather Joyce sy’n gyfrifol am faterion Cymraeg o fewn y cyngor.
Ymateb y cyngor
Mae Heather Joyce wedi ymddiheuro am yr ymateb gan ddweud ei bod hi’n ceisio anfon yr e-bost at dîm cyfieithu’r cyngor.
“Mae polisi iaith y Cyngor yn amlwg yn dweud y dylid ymateb i e-byst Cymraeg yn y Gymraeg, ac mae fy swyddfa wedi ymateb i ddegau o lythyrau drwy’r Gymraeg fel rhan o’r polisi hwnnw,” meddai’r arweinydd.
“Ymddengys i’r neges fynd ar goll ‘yn y system’ rhwng yr Uned Gymraeg a Swyddfa’r Cabinet. Yn amlwg nid yw hyn yn dderbyniol, a gallaf ond ymddiheuro eto; rwyf wedi gofyn i swyddogion archwilio beth aeth o le ar yr achlysur yma.
“Fel y dywedais yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Hydref, mae fy ngweinyddiaeth yn ymroddedig i gefnogi a hybu’r Gymraeg yn y ddinas, ac i’r perwyl hynny, rydym yn y broses o drefnu cynhadledd i drafod twf yr iaith o fewn y ddinas.
“Hoffwn awgrymu i chi gwrdd gyda’r Cynghorydd Huw Thomas, sef fy Llefarydd ar y Gymraeg, gan mai ef sydd yn arwain ar y datblygiadau hyn.”
‘Addewidion’
Dywedodd Euros ap Hywel: “Mae’n fy synnu i fod arweinydd y Cyngor, sydd hefyd yn gyfrifol am y Gymraeg, wedi ymateb yn y fath modd. Ond, rydyn ni’n cymryd bod ei hesboniad ac ymddiheuriad yn un diffuant.
“Daw hyn wythnosau yn unig wedi i’r cyngor wneud addewidion dros y Gymraeg.
Mae’r Gymdeithas yn gobeithio nad siarad gwag oedd yr addewidion hynny. Wedi sawl mis o geisio am gyfarfod i drafod cynlluniau’r cyngor i hybu’r iaith, rydyn ni’n gobeithio bydd un yn cael ei drefnu’n fuan.”