Y grwp Deerhunter yng Ngwyl Sŵn
Bydd tair gŵyl gerddorol Gymreig yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ym mis Chwefror am un o Wobrau 2014 cylchgrawn roc NME.
Cafodd Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Gŵyl Rhif 6 a Sŵn eu henwi ymysg y chwech ar restr fer Gŵyl Fach Orau’r cylchgrawn, gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni ar 27 Chwefror – a’r bleidlais yn un agored i’r cyhoedd gael dewis eu ffefryn.
Bu Cowbois Rhos Botwnnog, Casi Wyn a’r Ods ymysg y perfformwyr Cymraeg yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog fis Awst.
Dychwelodd Gŵyl Rhif 6 i Bortmeirion am ei hail flwyddyn yn 2013, gyda pherfformiadau gan rai o sêr cerddorol Cymru gan gynnwys y Manic Street Preachers, Bryn Fôn a Geraint Jarman.
Ac fe welodd Gaerdydd wledd arall o gerddoriaeth ym mis Hydref wrth i Sŵn ddychwelyd am ei seithfed flwyddyn i’r brifddinas.
Bydd y tri’n cystadlu yn erbyn gwyliau Kendall Calling yng ngogledd orllewin Lloegr, Rockness yn yr Alban a Y Not sy’n cael ei chynnal yn Swydd Derbyshire.
Arctic Monkeys yn arwain
Y band o Sheffield, Arctic Monkeys, sydd yn arwain yr enwebiadau, gydag wyth ohonynt rhwng y grŵp a’r prif ganwr Alex Turner gan gynnwys y Band Orau.
Mae Queens of the Stone Age a Haim ymysg y rheiny sy’n brwydro am y Band Rhyngwladol Orau, tra bod Lily Allen, David Bowie a Jake Bugg yn cystadlu am yr Artist Sengl Orau.
Mae’r Arctic Monkeys a Queens of the Stone Age hefyd yn erbyn ei gilydd yng nghategori’r albwm orau, tra bod yr AM hefyd yn wynebu cystadleuaeth gan Arcade Fire a Daft Punk am y Trac orau.
Gallwch weld y rhestr gyfan o enwebiadau ar wefan NME, yn ogystal â linc er mwyn pleidleisio.