Eglwys Gadeiriol Llandaf
Hannah Roberts sy’n holi beth allwn ni wneud i achub ein corau, wrth i gerddoriaeth eglwysi ddirywio …
Yn y misoedd diwethaf rydym ni wedi bod yn dyst i’r drafferth sy’n codi ymysg y cymunedau eglwysig yng Nghaerdydd ac ym Mangor.
Dros y Nadolig, mae saith o aelodau proffesiynol yn Eglwys Gadeiriol Llandaf wedi colli eu swyddi oherwydd strategaeth i ddatrys diffyg ariannol. O ganlyniad doedd dim altos, tenoriaid na basau i berfformio’r gwasanaethau Nadolig, sef amser prysuraf y flwyddyn.
Roedd Llandaf yn un o’r corau cadeiriol olaf yng Nghymru i gyflogi cantorion proffesiynol. Ceisiodd yr ISM (Incorporated Society of Musicians) annog codi arian i ddatrys y broblem, ond yn ofer.
Ac mae wedi arwain at sefyllfa ble mae’r côr, sydd wedi’i sefydlu ers dros 130 o flynyddoedd ac wedi ymddangos ddwywaith ar raglen BBC Songs of Praise y llynedd, yn cynnwys dim ond bechgyn ar hyn o bryd.
Doedd popeth ddim yn iawn ym mherthynas y BBC ac eglwys gadeiriol Llandaf chwaith. Mae’n debyg fod y BBC wedi cytuno i dalu £214 am waith diwrnod o ganu sef tua 5 awr, ond yn lle hynny, talwyd y coryddion £110 am waith deuddydd.
Byddai’r tâl dyddiol yma o £55 yn cyfateb i gyflog o tua £14,000 yn flynyddol. Mae teimlad fod coryddion yn cael eu hamddifadu o’r hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo.
Ble mae’r merched?
Wrth gwrs, fe allem ni ganolbwyntio ar broblemau eraill hefyd, fel ble mae’r merched yn y corau hyn? Mae merched a menywod yn gallu canu yn y Côr Plwyf Eglwys Gadeiriol ond chawn nhw ddim bod yn y prif gôr sef Côr Eglwys Gadeiriol.
Mae purdebwyr yn dweud na ddylid cymysgu lleisiau bechgyn a merched er mwyn cadw’r purdeb, ond mae rhai eglwysi cadeiriol yn cyflwyno’r syniad cam wrth gam.
Ers 2012 mae Eglwys Gadeiriol Bangor wedi cyflwyno côr merched – y cyntaf o’i fath yn yr eglwys honno mewn 1,437 mlynedd! Mae’r côr hwn yn arwain gwasanaethau yn aml ac fe’u cyflwynir gyda rheolau hafaledd.
Cynulleidfa goll
Wrth gyfeirio at Fangor, dylwn ni gofio bod cynulleidfaoedd wedi dirywio cymaint dros y blynyddoedd nes bod dwy eglwys wedi cau yno. Erbyn hyn yr eglwys gadeiriol yw plwyf y cynulleidfaoedd hyn, ac mae sôn am brynu bws er mwyn helpu ac annog pobl i fynd i wasanaethau.
Mae nifer yr addolwyr wedi dirywio ac mae’r angen i gynilo arian wedi annog adolygiadau ar sut y defnyddir eglwysi – gydag eglwys gadeiriol Bangor yn costio £12,000 y flwyddyn i’w gynhesu a’i oleuo.
Yn ôl y Cyfrifiad yn 2011, llai na 60% o bobl sy’n disgrifio eu hunain fel Cristion. Ac nid yr eglwysi yn unig sy’n cael eu heffeithio.
Mae’r golled o addolwyr yn awgrymu y bydd colledion i’r corau a hyd yn oed cyfeilyddion, er enghraifft organyddion a phianyddion.
Talwch y cerddorion
Mae’n haws i roi’r bai ar syniad bod seciwlareiddio yn cynyddu, ond falle bod rhywbeth ynglŷn â thaliadau. Dwi wedi sôn am y scandal talu rhwng Llandaf a’r BBC, ond beth am ymrwymiadau’r eglwysi â’r organyddion?
Mae’r eglwys yn gwneud camgymeriad wrth beidio â’u talu – sydd wedi arwain at nifer o organyddion Prydeinig yn gweithio yn Norwy oherwydd eu bod nhw’n swyddi dinesig yno ac felly yn cael eu talu.
Mae’n rhaid parchu’r bobl sydd wedi magu eu sgiliau dros y blynyddoedd – wedi’r cyfan, maen nhw’n gwneud swydd grefftus a gymerodd sawl awr a nifer o aberthau er mwyn perffeithio.
Falle nad yw rhai o’r pethau rwyf wedi codi yma yn swnio yn bwysig, ond cofiwch fod bywoliaeth o dan fygythiad yma yn ogystal â bywydau cerddorol yr eglwysi hyn.
Maen nhw’n rhoi gwasanaeth fel swyddi eraill. Drwy beidio â’u talu, dydyn ni ddim yn eu parchu o gwbl.
Gallwch ddarllen mwy gan Hannah ar ei blog jazzysheepbleats, neu ei dilyn ar Twitter ar @Tweet_The_Bleat.