William Roache
Mae’r actor Coronation Street, William Roache, wedi ymddangos yn y llys heddiw ar gyhuddiad o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn pump o ferched.

Mae’r actor 81 oed, sy’n chwarae rhan Ken Barlow yn yr opera sebon,  wedi’i gyhuddo o ddau achos o dreisio merch 15 mlwydd oed yn Nwyrain Swydd Gaerhirfryn yn 1967 a phum ymosodiad anweddus yn ymwneud a phedair merch arall rhwng 11 ac 16 oed yn ardal Manceinion rhwng 1965 a 1971.

Cyn i’r  achos ddechrau, dywedodd y barnwr Mr Ustus Holroyde QC wrth y rheithgor ei bod yn bwysig iddyn nhw wahaniaethu rhwng y “person go iawn” a’r cymeriad mae William Roache wedi’i chwarae ar yr opera sebon am fwy na hanner canrif.

Cyrhaeddodd William Roache Llys y Goron Preston gyda’i feibion ​​Linus a James a swyddog diogelwch.

Y prynhawn ma, mae’r erlyniad wedi dechrau amlinellu’r achos yn erbyn yr actor a dywedodd Anne Whyte QC wrth y llys bod ei enwogrwydd wedi caniatáu i William Roache gyflawni’r troseddau.

Fe wnaeth hi hefyd rybuddio’r rheithgor i ddod at gasgliad oherwydd y dystiolaeth yn ei erbyn, nid oherwydd ei fod yn chwarae rhan Ken Barlow.

Mae disgwyl i’r achos barhau am hyd at bedair wythnos. Mae William Roache yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.