Dylai senedd Prydain gael yr hawl i wrthod unrhyw ddeddfau sy’n cael eu cyflwyno gan yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl carfan sylweddol o Aelodau Seneddol meinciau cefn y Torïaid.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog David Cameron, dywed y grŵp o 95 AS y dylai’r senedd gael yr awdurdod i rwystro unrhyw ddeddfwriaeth newydd ac i ddiddymu unrhyw fesurau sy’n bygwth “buddiannau cenedlaethol” Prydain.
Mae’n ymddangos fod gan y grŵp chwech arall o gefnogwyr nad ydyn nhw’n fodlon datgan eu henwau ar goedd – gan gynnwys rhai sy’n dal swyddi yn y Llywodraeth.
Does gan y Senedd ddim pwerau o’r fath ar hyn o bryd – yr unig adegau y gall y Prif Weinidog ddefnyddio veto y Deyrnas Unedig yw i rwystro rheolau newydd dadleuol ar faterion fel amddiffyn neu’r gyllideb.