Senedd-dy Gwlad Groeg yn Athan (Gerard McGovern CCA 2.5)
Mae dau Aelod Seneddol arall wedi cael eu carcharu yng Ngwlad Groeg ar droseddau’n ymwneud â chwarae rhan mewn mudiad troseddol treisgar.

Bellach, mae pump o Aelodau Seneddol y blaid eithafol asgell dde, y Wawr Euraid, o dan glo yn y wlad.

Roedd un ohonyn nhw, Giorgios Yermenis, wedi cael ei gyhuddo o hyfforddi aelodau o’r Wawr Euraid i ymosod ar fewnfudwyr.

Roedd Nick Griffin, arweinydd y BNP, yn Athen ddydd Gwener i ddatgan ei gefnogaeth i’r Wawr Euraid ac i wrthwynebu’r erlyniadau.

Mae gan y Wawr Euraid 18 o Aelodau Seneddol yn senedd Gwlad Groeg.