Nigella Lawson
Mae Nigella Lawson wedi dweud mai ei hunig ddymuniad yn ystod achos llys yn erbyn ei chyn gynorthwywyr hi a’i chyn ŵr Charles Saatchi oedd amddiffyn ei phlant.

Ymddangosodd y gogyddes, sy’n fam i ddau, ar raglen foreuol Good Morning America yn yr Unol Daleithiau i hybu rhaglen goginio newydd. Ond gofynnwyd iddi hefyd am yr achos llys diweddar lle’r oedd wedi wynebu honiadau o gymryd cyffuriau’n rheolaidd.

Cafwyd Elisabetta a Francesca Grillo yn ddieuog o ddwyn cannoedd o filoedd o bunnoedd gan y cwpl.

Pan ofynnwyd i Nigella Lawson sut deimlad oedd hi i roi tystiolaeth dywedodd: “Alla i ddim cofio’n union oherwydd eich bod chi’n canolbwyntio gymaint ar ateb y cwestiynau hyd eithaf eich gallu felly does gennych chi ddim llawer o ymwybyddiaeth ohonoch eich hun.

“Efallai fod hynny’n beth da. Fy unig ddymuniad mewn gwirionedd oedd amddiffyn fy mhlant cymaint ag y bo modd ond … gwaetha’r modd, allwn i ddim gwneud hynny bob amser.”