Keir Starmer CF (Llun: Lewis Whylde/PA WIre)
Mae’r cyn Brif Erlynydd Keir Starmer am gynghori’r Blaid Lafur ar sut i gynnig gwell gwarchodaeth i ddioddefwyr trais a phlant wedi eu camdrin pan mae nhw’n ymddangos gerbron llys ac yn cael eu croesholi.
Roedd Keir Starmer CF yn Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus tan yn gynharach eleni a bydd hefyd yn ystyried sut i’w gwneud hi’n orfodol trwy gyfraith i’r heddlu ddweud wrth ddioddefwyr sut mae ymchwiliadau yn datblygu.
Mae yna nifer o achosion wedi cael sylw yn y cyfryngau ar ôl i ddioddefwyr bregus gael eu croes-holi yn fanwl yn ystod achosion llys.
Fe wnaeth y feiolynydd Frances Andrade ladd ei hun wythnos ar ôl rhoi tystiolaeth yn erbyn ei chyn-athro cerdd Michael Brewer gafwyd yn euog yn ddiweddarach o ymosod yn anweddus arni.
Roedd hi wedi cael ei chyhuddo o fod yn “gelwyddog” ac yn “freuddwydiwr” tra’n cael ei chroesholi.
Yn ôl Keir Starmer, mae taer angen y math yma o waith ymchwil.
“Mae gan dioddefwyr yr hawl i gael hyn oll wedi ei osod allan yn glir a’i gryfhau trwy’r gyfraith,” meddai.
Dywedodd Llefarydd Llafur ar Gyfiawnder, Sadiq Khan, bod gormod o godau a siartiau di-werth yn y maes yma ar hyn o bryd ac y bydd gweithredu’r cynlluniau “yn cynyddu hyder y cyhoedd yn y drefn gyfraith droseddol.”