Cafodd 23 o deithwyr ar drên gyflym yn ne India eu lladd yn gynnar y bore yma ar ôl i dân gynnau yn un o’r cerbydau.

Roedd 67 o deithwyr yn y cerbyd ar y pryd ond fe lwyddodd y rhan fywaf i ddianc.

Mae dau o blant ymhlith y rhai laddwyd ac mae’r awdurdodau yn credu bod y rhan fwyaf wedi mygu i farwolaeth mewn mwg du trwchus.

Roedd y trên ar ei ffordd o Bangalore i Nanded pan wnaeth y tân gynnau ond ac mae’r ymchwiliad i beth achosodd y cyfan eisoes wedi cychwyn.