Mrs Brown - neu'r actor Brendan O'Carroll
Fe gollodd yr opera sebon, EastEnders, ei lle ar frig rhestr rhaglenni mwya’ poblogaidd Diwrnod Dolig eleni – wrth i’r rhaglen gomedi, Mrs Brown’s Boys ddenu’r nifer mwya’ o wylwyr.

Fe gafodd EastEnders hefyd ei churo gan opera sebon ITV, Coronation Street yn nhabl y gwylwyr – a hynny am y tro cynta’ ers dros ddegawd.

Roedd 9.4 miliwn o bobol wedi tiwnio i mewn i wylio Mrs Brown’s Boys ar noson Dydd Nadolig, gyda Coronation Street a Doctor Who yn denu 8.3 miliwn o wylwyr yr un.

Ond roedd nifer y gwylwyr a welodd Janine Butcher yn cael ei harestio am lofruddio’i gwr, Michael Moon; ynghyd â landlord newydd tafarn y Queen Vic yn cyrraedd Albert Square yn EastEnders, 1.6 miliwn yn is na nifer y llynedd.

At hynny, fe gafodd y BBC glec arall, wrth i’r darllediad o Araith y Frenhines fethu â chyrraedd rhestr deg ucha’ rhaglenni Diwrnod Nadolig 2013. 5.7 miliwn o bobol fu’n gwylio eleni. Roedd nifer y bobol wyliodd yr araith ar ITV yn 2.1 miliwn, sy’n mynd â chyfanswm gwylwyr y Frenhines i 7.8 miliwn