Y Frenhines
Yn ei darllediad Nadolig mae’r Frenhines wedi dweud bod genedigaeth ei gor-ŵyr, y Tywysog George, wedi rhoi “gobaith a hapusrwydd newydd i’r dyfodol”.

Bu hefyd yn edrych yn ôl dros y 12 mis diwethaf at ei Jiwbilî Diemwnt ym mis Mehefin, gan hefyd edrych ymlaen at Gemau’r Gymanwlad yng Nglasgow’r flwyddyn nesaf.

Bu’r Frenhines hefyd yn rhoi teyrnged i’r rhai hynny sy’n aelodau o’r lluoedd arfog neu staff y gwasanaethau brys sydd ddim yn gallu treulio’r Nadolig gyda’u teuluoedd eleni.

Cafodd ei neges flynyddol ei chynhyrchu eleni gan y BBC a’i recordio ym Mhalas Buckingham.