Teithwyr yn Terminal 5 Heathrow (llun: Steve Parsons/ PA Media)
Mae’r nam technegol ym mhencadlys y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Traffig Awyr yn Swanwick, Hampshire, wnaeth effeithio’n arw ar deithwyr ar hyd a llêd gwledydd Ewrop ddoe, wedi cael ei atgyweirio.
Bu’n rhaid i filoedd o deithwyr o feysydd awyr yng Nghymru, Lloegr a’r Iwerddon aros am oriau am nad oedd y drefn o reoli’r traffig awyr yn ystod y nos wedi trosglwyddo yn iawn i’r drefn yn ystod y dydd gan achosi problem gyfathrebu allai gael effaith ar ddiogelwch.
Roedd 8% o’r holl deithiau awyr ar draws Ewrop wedi cael “eu gohirio’n sylweddol” yn ôl Eurocontrol, y corff Ewropeaidd sy’n gyfrifol am ddiogelwch yn yr awyr.
Roedd maes awyr Caerdydd ymhlith y meysydd wnaeth ddioddef waethaf yng Ngwledydd Prydain – er mai yn Heathrow yr oedd y sefyllfa ar ei gwaethaf gyda 228 o deithiau yn cael eu canslo.
Mae awdurdodau’r meysydd awyr i gyd beth bynnag yn cynghori teithwyr i gysylltu efo’r cwmniau hedfan am y sefyllfa ddiweddaraf.