San Steffan (llun llyfrgell)
Fe fydd cyflog Aelod Seneddol yn codi i £74,000 ar ôl etholiad 2015 – cynnydd o 11%.
Mae arweinwyr y Ceidwadwyr, y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud eu bod yn gwrthwynebu’r codiad oherwydd y sefyllfa economaidd – ac mae Ed Milliband a Nick Clegg wedi dweud na fyddan nhw yn derbyn yr arian ychwanegol ar egwyddor.
‘Dyw David Cameron beth bynnag ddim wedi dweud na fydd o’n derbyn yr arian.
Mae o dan bwysau gan rai aelodau o fewn ei blaid i gefnogi’r cynllun ond mae o wedi dweud na ddylai cyflog San Steffan godi tra bod cyflogau eraill yn cael eu ffrwyno.
Yr Awdurdod Annibynnol Safonau Seneddol sydd wedi pennu’r codiad cyflog a ‘does gan Aelodau Seneddol ddim ffordd o atal hyn onibai bod y gyfraith gafodd ei chreu yn dilyn sgandal y treuliau seneddol yn cael ei newid.
Dim digon
Yn ôl ymchwil yr Awdurdod mae dwy ran o dair o Aelodau Seneddol yn credu nad ydyn nhw’n cael tâl digonnol, ac mae ‘r cadeirydd, Sir Ian Kennedy wedi dweud bod yn rhaid i dâl y gwleidyddion “ddal i fyny” ar ôl blynyddoedd o gael ei ffrwyno.
Mae’r Awdurdod yn gobeithio ymateb i’r pryderon am y cynnydd yma trwy orfodi’r Aelodau i gyfrannu llawer rhagor at eu pensiynnau, sy’n costio £4.6miliwn i’r pwrs cyhoeddus ar hyn o bryd.
Ni fydd Aelodau sy’n rhoi’r gorau neu yn ymddeol o’r Senedd chwaith yn derbyn pecynnau ariannol ‘ail-sefydlu’. Dim ond yr Aelodau sy’n colli eu seddau fydd yn cael y taliadau yma yn y dyfodol.
Roedd adroddiad gwreiddiol yr Awdurdod wedi cydnabod nad oes yna “dystiolaeth cymhellol” bod lefel isel y cyflog ar hyn o bryd yn atal ymgeiswyr rhag sefyll etholiad neu yn gwneud i Aelodau adael San Steffan gan effeithio ar amrywiaeth y Senedd neu ostwng safon y gweinidogion.
Mae Syr Ian Kennedy yn dadlau ei fod “yn sylfaneol anghywir” i gadw cyflogau AS yn isel gan ychwanegu bod y sgandal am hawlio treuliau wedi digwydd yn union am fod yna or-ffrwyno ar y cyflogau.
“Candryll”
Mae Cyngrhair y Trethdalwyr eisoes wedi datgan eu gwrthwynebiad. Dywedodd y Prif Weithredwr Mathew Sinclair:
“Bydd trethdalwyr yn gandryll bod y codiad cyflog yma yn dod ar yr union amser pan mae Aelodau Seneddol yn hybu ffrwyno cyflogau a’r Canghellor yn datgan na all fforddio esmwythau’r baich trethiannol ar gartrefi a busnesau sydd dan bwysau”.