Mae bron i hanner yr athrawon croenddu a lleiafrifoedd ethnig yn creu bod eu gyrfaoedd wedi dioddef oherwydd hiliaeth yn ôl yr hyn ddywedwyd mewn cynhadledd drefnwyd gan un o’r undebau.
Daeth athrawon o bob rhan o Wledydd Prydain i Birmingham ar gyfer Cynhadledd flynyddol Athrawon Croenddu a Lleiafrifoedd Ethnig yr NASUWT.
Gofnnwyd i 350 o athrawon: “Ydych chi’n teimlo bod eich gyrfa yn cael ei ddal yn ôl oherwydd hiliaeth.”
Atebodd 49% eu bod nhw wedi dioddef, 26% yn dweud nad oeddyn nhw a doedd 25% ddim yn gwybod neu ddim yn sicr.
Wrth annerch y gynhadledd, dywedodd Chris Keates, Ysgrifennydd Cyffredinol yr NASUWT bod athrawon wedi dweud ers tro bod hiliaeth yn frith yn y system addysg,
“Mae atal talent a photensial athrawon ar sail hil neu liw yn andwyo gobeithion a dyfodol y disgyblion ,” meddai.