Mae trigolion y cymunedau wnaeth ddiodde waethaf oherwydd y llanw uchel ar hyd arfordir dwyreiniol Lloegr wedi cael rhybydd i osgoi dŵr budr a bod yn wyliadwrus rhag llygod mawr.
Bu’n rhaid i filoedd o bobl adael eu catrefi oherwydd y llanw uchaf ers trigain mlynedd nos Iau diwethaf. Fe wnaeth dŵr lifo i mewn i 1,400 o gartrefi ar hyd yr arfordir.
Mae’r awdurdodau yn Swydd Lincoln a Suffolk wedi dweud bod y dŵr budr sydd ar ôl yn llawn heintiau ac na ddylai plant chwarae yn yr ardlaoedd fu dan ddwr neu efo pethau fu ynghanol y dŵr.
Mae nhw hefyd wedi dweud bod llygod mawr yn achosi pryder wrth iddyn nhw grwydro ynghanol y sbwriel a’r llanast.
Gwella
Mae’r sefyllfa yn gwella yn yr ardaloedd yma beth bynnag.
‘Does yna ddim rhybuddion difrifol o lifogydd bellach ac yn Llundain mae’r rhwystr llifogydd ar draws y Tafwys wedi ail agor ar ôl y llanw uchaf ers iddo gael ei agor yn 1982.
Bydd gweithwyr Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr yn ymchwilio ac yn adfer y difrod i waliau a’r amddiffynfeydd yn ystod y dyddiau nesaf.