Bu rhaid mynd ag wyth o bobl i’r ysbyty ar ôl i gar daro yn erbyn stondianu ym marchnad yr Wyddgrug ychydig cyn unarddeg o’r gloch y bore yma (Sadwrn).

Fel arfer mae’r stryd fawr ar gau ar ddyddiau marchnad ond cafodd y stondinwyr a’r bobl oedd yno’n siopa fraw wrth weld car yn dod i lawr y stryd.

Cafodd pump o bobl, gan gynnwys dau oedd wedi eu hanafu’n ddifrifol eu cludo gan ambiwlans i Ysbyty Maelor Wrecsam.

Aeth yr ambiwlans awyr ag un ddynes i Ysbyty Glan Clwyd a dwy ddynes arall efo mân anafiadau i Ysbyty’r Countess of Chester yng Nghaer.

Ymateb

Roedd y gwasanaethau brys yno o fewn munudau i’r digwyddiad ac fe ddefnyddiwyd neuadd y dref fel canolfan frys tra bod staff banc cyfagos yn gwneud paneidiau i’r bobl oedd yn dioddef o sioc.

Dywedodd y Prif Arolygydd Dave Owens o Heddlu Gogledd Cymru bod y ffordd yn agored bellach a’r difrod wedi ei glirio erbyn hyn.

“Dwi eisiau canmol ymateb positif y stondinwyr a’r gymuned leol adeg y digwyddiad a wedyn,” meddai gan ychwanegu bod yr heddlu yn ymchwilio i’r digwyddiad ac yn apelio am dystion i gysylltu efo nhw trwy ffonio 101.