Charlie Simpson a'i dad
Mae bachgen unarddeg oed o Fulham yng ngorllewin Llundain wedi codi dros £4,000 ar gyfer plant y Philippines sydd yn diodde oherwydd effaith y corwynt yno’n ddiweddar.

Ar ôl clywed am y trychineb penderfynodd Charlie Simpson drefnu taith feicio 40 cilomedr ar gyfer cronfa’r plant Unicef ac fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i drefnu bwyd, dwr a meddyginiaethau i’r plant sydd mewn angen.

Y noson cyn y daith feic cafodd Charlie gyngor gan Syr Chris Hoy y beiciwr Olympaidd, ddywedodd wrtho am yfed digon o ddwr a bwyta brecwast mawr.

Fe wnaeth gwblhau’r daith yn South Park, Fulham efo’i dad Dan Simpson a’i ffrind Sophia Ground sy’n ddeuddeg.

“Mi welais i luniau o’r corwynt ar y newyddion ac roeddwn i’n drist iawn. Roedd yn rhaid i mi wneud rhywbeth ac roedwn eisiau i blant y Philippines gael bwyd a dwr a chysgod.

“Roeddwn i wedi gobeithio codi £500 a dwi’n hapus iawn fy môd i wedi codi cymaint o arian.”

Nid dyma’r tro cyntaf i Charlie godi arian ar gyfer achos da. Yn Ionawr 2010 ar ôl y daeargryn yn Haiti ac yntau yn saith oed, fe gododd £260,000 trwy feicio am bum milltir.

Pryd hynny cafodd fynd i 10 Downing Street i gyfarfod y Prif Weinidog Gordon Brown.