Joshua Folkes, laddwyd yn Llundain (Llun Heddlu Llundain)
Mae llanc deunaw oed wedi ymddangos gerbron llys yn Clerkenwell, Llundain ar gyhuddiad o lofruddio bachgen 17 oed yn y ddinas yn ystod oriau mân bore Mawrth.
Cafodd Joshua Folkes ei drywanu i farwolaeth y tu allan i gartref ffrind yn Palmers Green.
Cafodd Kreshnik Etemi ei gadw yn y ddalfa yn yr Old Bailey bore Llun.
Mae’r heddlu wedi arestio llanc arall ynglyn â’r digwyddiad erbyn hyn.
Cafodd merch 15 oed gafodd ei harestio dydd Mercher wedi cael ei rhyddhau ar fechniaeth.