Affganistan
Mae un o filwyr y marines wedi cael ei ddedfrydu i oes o garchar, ac yn gorfod treulio o leiaf 10 mlynedd dan glo, am lofruddio gwrthryfelwr yn Affganistan.

Cafwyd Alexander Blackman, 39, yn euog y mis diwetha’ o’r llofruddiaeth yn ardal Helmand mis Medi 2011. Cafodd dau o’i gyd-filwyr eu clirio.

Roedd gan Alexander Blackman dros 15 mlynedd o brofiad yn y fyddin a bu’n gwasanaethu yng Ngogledd Iwerddon, Irac ac Affganistan.

Dywedodd y barnwr wrth Blackman: “Mae dy weithred wedi rhoi bywydau milwyr eraill mewn perygl. Rwyt ti wedi darparu arf i’r terfysgwyr sydd yn defnyddio propoganda i bortreadu presenoldeb Prydain yn Affganistan fel rhyfel yn erbyn Islam ble mae aelodau o’r cyhoedd yn cael eu lladd.

“Mi geith yr arf yma ei ddefnyddio yn eu rhaglen radicalaidd a all danseilio enw da’r fyddin Brydeinig ac yn y pen draw y nod yn Affganistan.”