Mae 46% o weithwyr Cymru wedi cyfaddef iddyn nhw aros adref o’u gwaith y diwrnod ar ôl bod mewn parti Nadolig, oherwydd eu hymddygiad y noson gynt.

Yn ôl yr arolwg gan gwmni diod iechyd Alibi mae 36% o Gymry yn dweud celwydd am y rheswm nad ydyn nhw yn y gwaith a 12% wedi gofyn i ffrindiau achub eu cam a dweud celwydd drostyn nhw.

Wrth ystyried y darlun Prydeinig, mae dros 50% yn penderfynu peidio mynd i’r gwaith.

Y prif reswm yw eu bod nhw’n teimlo’n sâl oherwydd eu bod nhw wedi meddwi, neu eu bod nhw dal yn feddw (39%).

Roedd 26% hefo  cywilydd dod i’r swyddfa wedi iddyn nhw gusanu neu gysgu hefo aelod arall o staff a 13% wedi ffraeo hefo cydweithiwr.

Mae Oliver Bolton, sydd wedi creu’r diod Alibi, yn credu fod ffonio’r gwaith hefo’r esgus o fod yn yn sâl dros gyfnod y Dolig, yn rhywbeth sy’n dod yn fwy poblogaidd.

“Mae rhywbeth am y cyfnod sy’n ein gwneud ni’n fwy hwyliog, fel ein bod ni’n blant ysgol unwaith eto.”