Mae adroddiad Econ Active yn dangos bod Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd yn werth £130 miliwn y flwyddyn i economi Cymru ac yn cynnal 2,500 o swyddi parhaol.

Cafodd cystadleuaeth pêl-droed Gemau Olympaidd Llundain eu cynnal  yno yn 2012, ac mae’n debyg y cynhelir wyth o gemau rygbi yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd yno yn 2015.  Dangosodd adroddiad tebyg chwe blynedd yn ôl mae £100 miliwn oedd gwerth y Stadiwm i economi Cymru.

‘‘Mae’r Stadiwm wedi penderfynu o’r dechrau ei bod yn bwysig i gynnal digwyddiadau yno sy’n mynd i ddenu cynulleidfa eang o’r tu allan i Gymru.  Yr ydym yn edrych ymlaen i gydweithio gyda’r Stadiwm i gynnal digwyddiadau sy’n dangos bod Cymru yn wlad flaengar,’’ meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Mae 770,000 o ymwelwyr yn mynychu’r stadiwm yn flynyddol i wylio rygbi neu gyngerddau cerddorol a bydd 50,000 yn cael eu tywys ar deithiau o amgylch y stadiwm bob blwyddyn.

Digwyddiad pwysig yn y dyfodol agos yno fydd y rownd derfynol y Cwpan Heineken.