Mae elusen i’r digartref yng Nghaernarfon wedi ennill £50,000 ar ôl bidio am yr arian gan elusen ITV The People’s Millions.

Mae GISDA yn darparu gwasanaeth i bobl ifanc digartref rhwng 16 a 25 mlwydd oed.

Bwriad GISDA yw defnyddio’r arian i agor caffi a fydd yn darparu cyfle i bobl ifanc feithrin sgiliau a datblygu hyder er mwyn byw yn annibynnol.

Ers i The People’s Millions gychwyn yn 2005 mae’r gystadleuaeth wedi darparu arian ar gyfer 32 o fentrau drwy Gymru. Daw’r arian o gronfa’r loteri.

Dywedodd rheolwr project GISDA Gethin Evans: “Mi fydd hyn yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau, hyder a chael y cyfle i enill cymwysterau mewn sawl maes.”

Ychwanegodd John Rose cyfarwyddwr gronfa y Lotto fawr Cymru: “Pob blwyddyn mae miliynau’r bobl yn dangos y gwaith anhygoel mae sawl prosiect yn gwneud i  wneud gwahaniaeth i’w cymdeithasau lleol ac mae’r gystadlaeaeth yma yn rhoi y cyfle iddynt gael cefnogaeth gan gynulleidfa eang led led Cymru.”