Mae Robin Farrar eisiau ymchwiliad
Mae Comisiynydd yr Iaith wedi cadarnhau wrth golwg360 nad yw cwmni yswiriant Swinton wedi ateb eu holl gwestiynau am wahardd y Gymraeg o’u swyddfeydd wrth drafod busnes.
Aeth bron i fis heibio ers i gylchgrawn Golwg ddatgelu bod y cwmni, sydd â changhennau ledled Cymru, ddim yn caniatáu i aelodau staff siarad Cymraeg gyda chwsmeriaid wrth drafod busnes, am fod y cwmni yn recordio sgyrsiau ffôn.
Ar y pryd dywedodd Swinton nad oedden nhw’n cynnal eu busnes “mewn unrhyw iaith heblaw am Saesneg”, ac y byddai unrhyw gwsmer fyddai’n dymuno siarad Cymraeg yn cael “eu hysbysu nad yw hyn yn bosib”.
Ers hynny mae Comisiynydd yr Iaith wedi cysylltu â’r cwmni i holi mwy ynglŷn â’r achos.
Ond yn ôl llefarydd ar ran y Comisiynydd, dydyn nhw eto i dderbyn ateb llawn i’r cwestiynau.
Dal yn ‘casglu gwybodaeth’
“Mae’r Comisiynydd wedi derbyn ymateb i’w llythyr gwreiddiol gan Swinton,” meddai’r llefarydd wrth golwg360. “Mae wedi ysgrifennu yn ôl i ofyn am fwy o wybodaeth, a dydyn ni heb dderbyn ymateb i hwnnw eto.”
Yn ôl y llefarydd, gan nad oedd y llythyr gwreiddiol a gafwyd gan Swinton wedi ateb holl gwestiynau’r Comisiynydd, roedden nhw dal “yn y broses o gasglu gwybodaeth” ar yr achos.
Cymdeithas yn pryderu
Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn galw am ymchwiliad llawn i’r mater cyn gynted â phosib.
“Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhoi pwerau statudol newydd i Gomisiynydd y Gymraeg ymchwilio i sefyllfaoedd yn union fel hyn,” meddai Robin Farrar.
“Rydyn ni wedi gofyn i’r Comisiynydd gynnal ymchwiliad i’r cwmni hwn, a chodi’r problemau echrydus hyn yn uniongyrchol gyda’r diwydiant yswiriant yn ei gyfanrwydd. Rydyn ni hefyd wedi codi ein pryderon am hyd y broses.
“Mae angen iddi dynnu sylw at broblemau fel hyn yn gyhoeddus fel bod pobl yn ymwybodol o’u hawliau newydd. Dylai hi roi gwybod i gwmnïau yswiriant fod gan y Gymraeg statws swyddogol, a’u bod yn ymddwyn yn groes i’r gyfraith os ydyn nhw’n atal eu staff rhag siarad Cymraeg gyda chwsmeriaid.”