Mae’r dilledyn ola’ i Bruce Lee ei wysgo tra’n ffilmio wedi ei werthu mewn ocsiwn yn Hong Kong am £61,300.
Fe wysgodd y brenin kung fu’r siwt felen tra’n ffilmio Game of Death.
Roedd y wisg yn un o 14 o eitemau yn perthyn i’r actor a gafodd eu gwerthu am dros ddwy filiwn o ddoleri Hong Kong (£158,200).
Dywedodd yr ocsiwnïar yn Hong Kong bod sdreipan ar gefn y siwt felen wedi ei ddifrodi tra’r oedd Bruce Lle yn ffilmio golygfa ymladd.
Bu farw’r actor yn 1973, ac yntau’n ddim ond 32 mlwydd oed, cyn medru cwblhau ffilmio Game of Death.
Gwerthwyd bar o nunchaku melyn a oedd yn mynd efo’r siwt am £49,000 i George Phillips, rheolwr budsoddiadau Prydeinig sydd yn byw yn Hong Kong. “Mae’n eitem eiconig,” meddai.