Bydd tair gig yn cael eu chwarae mewn diwrnod ar draws Gogledd Cymru yfory i hyrwyddo albwm aml-gyfrannog newydd O’r Nyth.
Mae’r casgliad o ganeuon, gan artistiaid amrywiol o ar draws y sin gerddoriaeth Gymraeg, wedi cael ei rhoi at ei gilydd gan hyrwyddwyr cerddoriaeth Nyth, trefnwyr gigiau ar hyd a lled Cymru.
Bydd y tair gig yfory – yn Awen Meirion yn Y Bala am 11yb, Palas Print yng Nghaernarfon am 3yp, a Llanast Llanrwst am 8yh – yn cynnwys perfformiadau gan Sen Segur ac Alun Gaffey, dau o’r cyfranwyr i’r albwm.
Cynulleidfa newydd
Ac fe ddywedodd un o drefnwyr Nyth, Gwyn Eiddior, wrth golwg360 eu bod yn gobeithio y gall yr albwm gyflwyno cynulleidfaoedd newydd i rai o’r artistiaid.
“Roedden ni eisiau amrywiaeth yn yr albwm o ran artistiaid,” meddai Gwyn Eiddior. “Dyna be ydi’r gigiau felly doedd hi ond yn iawn fod y record yn adlewyrchu hynny. Mae ‘na lot o gasgliadau sydd efo caneuon gwahanol iawn o ran dulliau.
Roedden ni’n gweld o fel cyfle i bobl ddod i nabod artistiaid doeddwn nhw ddim yn gwybod am o’r blaen, a’u cyflwyno nhw i gynulleidfaoedd newydd.
“Roedden ni’n teimlo y buasai’n syniad da cofnodi Nyth mewn dull gwahanol i’r arfer, ar gof a chadw fel petai. Rydym ni wedi cydweithio efo lot o artistiaid gwych yn y gorffennol, ac roedden ni eisiau creu cynnyrch oedd yn cyfuno’r talentau hynny.
“Mae’r cyfuniad yma o artistiaid yn groestoriad o be sy’n dda am gerddoriaeth ifanc gyfoes yng Nghymru. Maen nhw i gyd yn artistiaid hynod o dalentog, rydyn ni wedi cydweithio efo nhw yn barod – ac yn syml, rhain ydi’n hoff artistiaid ni!
Rhyddid creadigol
Gofynnwyd i’r artistiaid gyfrannu trac newydd sbon i’w gynnwys ar y casgliad, sy’n cael ei ryddhau ar record finyl deuddeg modfedd, a rhoddwyd rhyddid creadigol llwyr iddynt fynd ati i lunio’r traciau.
“Oherwydd natur creu’r record, roedd yr union flas a naws y record gyflawn yn dipyn o ddirgelwch i ninnau hefyd, ond ers y gwrandawiad cyntaf un rydym ni’n sicr ei fod yn gasgliad gwerth chweil sy’n adlewyrchiad gwych o gerddorion Cymru heddiw.”
Bydd criw Nyth hefyd yn cynnal gig Nadolig yn y Gwdihŵ yng Nghaerdydd ar yr 13eg o Ragfyr i hyrwyddo’r record, yn ogystal â chael stondin yng Ngŵyl Bwyd a Chrefft Portmeirion ddydd Sul yma.
Gallwch ddarllen adolygiad O’r Nyth gan ein blogwraig cerddoriaeth Miriam Elin Jones, yn ogystal â gwrando i raglen C2 Lisa Gwilym yn trafod yr albwm gyda Gwyn Eiddior ac Alun Gaffey.
Dyma ran o’u cyfweliad ar raglen Lisa Gwilym, lle mae Lisa’n holi am sefydlu Nyth yn y lle cyntaf:
Mae’r record ar gael o wefan www.nyth.net nawr, ac am fwy o wybodaeth gallwch ddilyn Nyth ar Twitter (@_nyth) neu are u tudalen Facebook, www.facebook.com/nyth1.
Traciau’r albwm:
Ochr 1
SEN SEGUR : Unreal (or is it?)
CASI WYN : Hardd
GWYLLT : Dyffryn Nunlle
OSIAN HOWELLS : Rhywbeth Gwell
Ochr 2
COWBOIS RHOS BOTWNNOG : Tyrd Olau Gwyn
PLYCI : Ebol Ebol
ALUN GAFFEY : Fy Natur Ddeuol
VIOLAS : Glide
AFAL DRWG EFA : Gwyll. Gwawr.