Mae’n sicr yn dymor Nadolig bellach, gyda rhai o artistiaid amlycaf Cymru’n mynd ati i ymuno yn hwyl yr Ŵyl – mae The Gentle Good eisoes wedi rhyddhau sengl Nadoligaidd am ddim, gyda sôn hefyd bod Ywain Gwynedd wrthi’n paratoi un hefyd.
Un arall sydd wedi profi llwyddiant gyda’i diwn Nadoligaidd yw Al Lewis, fydd yn rhyddhau ei sengl newydd ‘A Child’s Christmas In Wales’ ar y 16eg o Ragfyr.
Ac mae’r sengl eisoes wedi profi’n boblogaidd, gyda BBC Radio 2 eisoes wedi ei gosod ar eu rhestr ganeuon dros gyfnod y gwyliau.
Gallwch wylio fideo y sengl yma:
Dylanwad Dylan
Ac os yw teitl y sengl yn swnio’n gyfarwydd i chi, mae hynny’n fwriadol – mae’r sengl yn rhannu’i enw gyda llyfr gan Dylan Thomas, sydd yn cael ei ganmlwyddiant wedi’i ddathlu yn 2014.
Mae’r rhan fwyaf o’r gân yn cael ei chanu’n Saesneg, gydag ychydig linellau o Gymraeg, ac fe ddywedodd Al Lewis wrth golwg360 mai stori’r awdur enwog oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r geiriau.
“Yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gân oedd canmlwyddiant Dylan Thomas,” esboniodd Al Lewis. “Mae ‘na dipyn o ddathliadau wedi bod, ac un o’m hoff straeon i pan oeddwn i’n fach oedd ‘A Child’s Christmas in Wales.
“Dwi di selio’r gân ar ei waith o, mae’r geiriau yn adlewyrchu hynny. Does ’na ddim lot o ganeuon Nadoligaidd ffres, newydd yn gyffredinol dwi’m yn meddwl, ma’ pawb yn neud ‘covers’ y dyddiau yma.
“Fe wnaethon ni saethu’r fideo yn Abertawe, ac fe gawson ni ganiatâd i ffilmio yn y tŷ lle cafodd Dylan Thomas ei eni, oedd yn grêt.
“Mae cael fideo da’n bwysig iawn. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n edrych am ganeuon yn ffeindio’u cerddoriaeth nhw ar Youtube y dyddiau hyn, felly mae gwneud rhywbeth trawiadol yn bwysig.”
Ymateb positif
Mae’r ymateb i’r sengl wedi bod yn galonogol iawn hyd yn hyn, rhywbeth ddaeth yn ychydig o syndod i Al Lewis.
“Dwi wedi cael sypreis neis iawn [efo’r ymateb], mae’r cyhoedd ‘di mwynhau ’fyd. Dwi wedi cael ffans Dylan Thomas yn cysylltu i ddweud eu bod nhw’n licio’r geiriau, sy’n beth neis.
“Mae’n wych [ei fod wedi denu sylw Radio 2], fe fydd y gân ar Radio 2 drwy gydol mis Rhagfyr. Roedd o’n neis bod ‘na Gymraeg arno hefyd – allai ddim meddwl fy hun am gân arall efo Chymraeg ynddi sydd ‘di bod ar Radio 2, ond dwi ddim yn siŵr!
“Dwi’n berson dwyieithog, pan dwi’n gigio dwi’n chwarae caneuon Cymraeg a Saesneg, felly roedd y peth yn gwneud synnwyr i mi. Nes i feddwl waeth i mi drio rhywbeth gwahanol, rhywbeth unigryw fel hwn.”
Gig Nadoligaidd
Cyn y Nadolig bydd gan Al Lewis gig arbennig i’w chwarae yng Nghaerdydd ar y 13eg o Ragfyr, gyda Gildas, Brigyn a Greta Isaac yn ymuno ag ef.
Ond bydd y gig yn Eglwys Sant Ioan yng Nghanton yn un anarferol – mae’r cerddorion wedi gofyn i’w cynulleidfa nhw wisgo’u siwmperi Nadoligaidd gorau ar gyfer y noson, gyda chasgliad hefyd yn mynd tuag at Achub y Plant.
Ac fe ddywedodd Al Lewis y byddai’r gwyliau’n gyfle iddo gymryd ychydig o seibiant hefyd.
“Efo’r gwaith dwi’n neud, mae’n golygu treulio lot o amser yn teithio, felly i mi mae Dolig yn gyfle i ddod at ei gilydd, gweld ffrindiau a theulu, ac adeg i ddistewi ac ymlacio.”
Ond ni fydd yn segur am hir. Flwyddyn nesaf bydd gan Al Lewis a’r Band drydydd albwm ar y gweill, gyda’r canwr yn cadarnhau eu bod yn gobeithio dechrau recordio ym mis Ionawr ac yn anelu i’w rhyddhau “erbyn y gwanwyn”.
Bydd y sengl ‘A Child’s Christmas in Wales’ gan Al Lewis i gael o’r 16eg o Ragfyr ymlaen ar http://allewismusic.com/.