George Osborne
Wrth i’r Canghellor George Osborne baratoi i gyflwyno Datganiad yr Hydref heddiw mae miliynau o bobl wedi cael eu rhybuddio y bydd yn rhaid iddyn nhw aros yn hirach cyn cael eu pensiwn gwladol.

Fe fydd pobl sydd yn eu 40au nawr ddim yn cael eu pensiwn gwladol nes eu bod yn 68, tra bod y rhai hynny sydd yn eu 30au yn gorfod aros nes eu bod yn 69.

Daeth y cyhoeddiad ar ôl i George Osborne gyhoeddi neithiwr y bydd toriadau pellach gwerth £3 biliwn i wariant Whitehall dros y tair blynedd nesaf, a hynny er gwaetha’r disgwyl y bydd rhagolygon Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) yn dangos twf yn yr economi.

Mae disgwyl i’r Canghellor hefyd gyhoeddi cap ar gyfraddau busnes, rhewi tollau tanwydd a thoriad mewn trethi i gyplau priod.