Nigella Lawson
Mae Nigella Lawson wedi cyfaddef cymryd cocên yn y gorffennol ond mae wedi wfftio’r syniad ei bod yn gaeth i gyffuriau neu’n defnyddio cocên yn rheolaidd.

Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron Isleworth yn Llundain, dywedodd y gogyddes, 53 oed,  ei bod wedi cymryd cocên gyda’i diweddar ŵr John Diamond ar ôl iddo ddarganfod ei fod yn marw o ganser, ac unwaith eto ym mis Gorffennaf 2010 yn ystod “cyfnod anodd” yn ei phriodas a Charles Saatchi.

Cyfaddefodd ei bod hefyd wedi smocio canabis yn ystod blwyddyn olaf ei phriodas a Charles Saatchi.

“Mae’r syniad fy mod i’n gaeth i gyffuriau neu’n defnyddio cyffuriau’n rheolaidd yn hollol hurt,” meddai.

Ers iddi adael ei chyn-wr, nid yw wedi defnyddio cyffuriau o gwbl meddai.

Bu Nigella Lawson yn rhoi tystiolaeth yn achos llys dwy o’i chyn gynorthwywyr personol.

Mae’r chwiorydd Eidaleg, Elisabetta a Francesca Grillo,  wedi’u cyhuddo o dwyll drwy ddefnyddio cerdyn credyd gawson nhw gan Nigella Lawson a’i chyn ŵr, Charles Saatchi, er budd personol.

Honnir bod y chwiorydd wedi gwario £685,000 ar ddillad a bagiau i’w hunain gan ddylunwyr fel Louis Vuitton , Christian Dior a Vivienne Westwood.

Wythnos diwethaf, clywodd y llys bod Charles Saatchi wedi cyfeirio at ei gyn wraig fel “Higella” mewn e-bost gan ei chyhuddo o fod dan ddylanwad  cyffuriau ac o ganiatáu i’r ddwy chwaer wario arian y cwpl ar beth bynnag roedden nhw ei eisiau.

Mae Elisabetta Grillo, 41, a’i chyd-ddiffynnydd Francesca, 35, o Bayswater, Llundain yn gwadu’r cyhuddiad o dwyll yn eu herbyn.