Carwyn Jones
Fe fydd adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal i achosion honedig o gam-drin yr henoed mewn cartrefi gofal yng Ngwent, fe gyhoeddodd Prif Weinidog Cymru  Carwyn Jones heddiw.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn Operation Jasmine – sef yr ymchwiliad mwyaf yn y DU i honiadau o esgeulustod mewn chwech o gartrefi gofal ar gost o £11.6 miliwn.

Ym mis Mawrth eleni cafodd yr achosion yn erbyn perchnogion a rheolwr y cartrefi eu gohirio, oherwydd cyflwr iechyd un o’r diffynyddion yn dilyn ymosodiad arno. Nid oes cadarnhad pryd fydd yr achosion yn ail ddechrau ond fe all hynny ddigwydd os yw cyflwr y ddifynydd yn gwella.

Ar ôl derbyn cyngor gan swyddogion cyfreithiol, mae Carwyn Jones am gynnal adolygiad er mwyn “dysgu gwersi i’r dyfodol”. Fe fydd yr adolygiad yn siarad a theuluoedd y rhai oedd yn gysylltiedig, yn ogystal a’r awdurdodau lleol, yr heddlu a rheoleiddwyr.

Dywedodd: “Nid wyf am i’r hyn a ddigwyddodd yng Ngwent ddegawd yn ôl gael ei ail-adrodd fyth eto. Fe fydd yr adolygiad yma’n ceisio sicrhau nad yw hynny’n digwydd.”

Arwain

Dr Margaret Flynn, sy’n Gadeirydd Bwrdd Gofal i Oedolion yn Sir Gaerhirfryn, fydd yn arwain yr adolygiad “cynhwysfawr”ac mae disgwyl iddo fod wedi ei gwblhau erbyn diwedd 2014.

“Lle’n briodol, bydd yr adroddiad yn cyflwyno unrhyw ddarganfyddiadau i’r Gweinidogion yng Nghymru yn yr haf, fel y gall newidiadau gael eu gwneud i’r polisi neu ddeddfwriaeth yn y dyfodol,” meddai Carwyn Jones.

‘Rhaid dysgu o wallau yn y system’

Wrth ymateb i gyhoeddiad y Prif Weinidog, dywedodd Aled Roberts, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros yr Henoed:  “Mae Comisiynydd yr Henoed a theuluoedd y bobol a fu’n dioddef wedi galw am adolygiad ers peth amser ac rwy’n credu mai dyma’r dewis cywir i’w wneud.”

“Nid yw gobeithio na fydd digwyddiad tebyg i’r achosion honedig yng Ngwent yn ddigon. Mae’n rhaid i ni gael gwybod sut y bu i gymaint o fethiannau ddigwydd a dysgu o wallau yn y system er mwyn rhwystro rhywbeth fel hyn rhag digwydd eto.”