Bydd dyn o Fryste yn cael ei ddedfrydu heddiw, wedi iddo gyfaddef llofruddio dyn anabl a rhoi ei gorff ar dân.
Fe laddodd Lee James, 24, ei gymydog, Bijan Ebrahimi yn Brislington ym mis Gorffennaf, wedi iddo ei gyhuddo, ar gam, o fod yn bedoffeil.
Bu farw Bijan Ebrahimi, oedd yn ei 40au ac yn dod o Iran, o anafiadau i’w ben a chafwyd hyd i’w gorff wedi’i losgi 100 llath o’i dy yn Capgrave Crescent, Brislington.
Fe blediodd Lee James yn euog i lofruddio ac fe wnaeth dyn arall, Stephen Norley, 24, gyfaddef cynorthwyo troseddwr.
Gwrthgymdeithasol
Cafodd Bijan Ebrahimi ei arestio ddechrau Gorffennaf yn dilyn honiadau ei fod yn tynnu lluniau o blant, ond fe gafodd ei ryddhau gan yr heddlu.
Mae’n debyg mai tynnu lluniau o ddifrod i’w ardd er mwyn profi bod achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei erbyn oedd Bijan Ebrahimi.
Yn dilyn ymchwiliad gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu cafodd 4 o gwnstabliaid, rhingyll ac arolygydd yr heddlu eu cyhuddo o gamymddygiad difrifol am fethu a rhoi help i Bijan Ebrahimi.
Yn ôl teulu Bijan Ebrahimi, sy’n hanu o Iran:
“Dyle ni ddim anghofio fod Bijan wedi dioddef achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei erbyn am flynyddoedd cyn ei farwolaeth, oherwydd ei hil a’i anabledd corfforol. Am y rheswm hyn dylai’r heddlu fod wedi cymryd ei apêl am help o ddifrif yn y dyddiau cyn iddo gael ei lofruddio.”